Sut mae Penrallt?

Drws Penrallt

Rydym yn ceisio fod yn agored a chyfeillgar, creadigol a modern, doeth ac efo'n traed ar y ddaear, anffurfiol a pherthnasol. Rydym yn ceisio fod yn eglwys lle fyddwch chi'n nesáu at Dduw, dysgu rhywbeth defnyddiol, dod â ffrind heb erioed teimlo'n chwithig, teimlo bob amser yn groesawgar, diogel ac wedi'ch deall. Mae ein cerddoriaeth yn mynd o roc i emynau traddodiadol, o ganu gwerin Geltaidd at y gleision, o eistedd-a-meddwl i sefyll-i-fyny-a-chlapio'ch-dwylo.

Rydym ni'n ceisio caru, ymddiried a dilyn yr Iesu; trwy ei ysbryd; yn un mewn gras, gwirionedd a chariad, er gogoniant i Dduw.

Mae Penrallt yn aelod Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Cynghrair Efengylaidd, yn ogystal â fod yn rhan o gymuned Bangor, Gwynedd (Gogledd Cymru) ac aelod CYTÛN Bangor (Eglwysi Ynghyd Bangor). Fel y cyfryw, rydym ni'n tanysgrifio i Ddatganiad Egwyddor Undeb y Bedyddwyr a Sylfain Ffydd y Cynghrair Efengylaidd, ynghŷd â Chredo'r Apostolion. Casglwyd yr rhain yn y dogfen PDF What We Believe.

Amser panad

Er mai eglwys Saesneg yw Penrallt yn bennaf, rydym o blaid yr iaith Gymraeg ac mae sawl ein haelodau yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Rydym yn canu ein hemynau a chaneuon yn ddwyieithog cymaint â phosib ac yn cynnal rhai o'n digwyddiadau yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.

Symudon ni i'n hadeilad presennol ar Ffordd Caergybi yn 2005 o achos tyfiant ym maint y gynulleidfa. Fasen ni wrth ein boddau i'ch croesawu yma. Mae map a chyfeiriadau ar gyfer yr eglwys ar gael yma. Rydym ni wedi ysgrifennu dogfen fer (yn Saesneg) am hanes ein hadeilad (PDF).

Hoffech chi astudio'r Beibl am ddim ar-lein? Ymwelwch â Scripture Union.

Pobl ym Mhenrallt