Myfyrwyr Penrallt

Croeso i Fyfyrwyr!

Os ydych chi'n myfyriwr newydd, yn eich trwydedd flwyddyn, yn gwneud PhD... Ac os ydych chi'n Cristion, yn archwilio ffydd, neu oes gynnoch chi gwestiynau... croeso i bawb.

Yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt, rydym ni am eich cefnogi chi gymaint â phosibl wrth i chi astudio ym Mangor.

Mae gennym oedfaon Sul, grwpiau tŷ, teithiau'r cymrodoriaeth, gweithgareddau cymdeithasol hunangymelliadol... a chroeso i chi ddod i gymaint neu gynlleied â hoffech chi.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi!

Am ragor o wybodaeth, gyrrwch ebost at students@penrallt.org

Mae Bangor yn lle anhygoel i astudio. Yn ogystal â bod yn agos iawn at Parc Cenedlaethol Eryri, y hyfryd Ynys Môn a tref glan môr Llandudno, mae'n gyfoeth efo hanes a diwylliant ei hun. Mae hyn i gyd yn arwain at brofiad prifysgol hollol unigryw.

Grwpiau cartref

Grwpiau cartref ydy'r ffordd perffaith i gysylltu efo'r eglwys yn ystod yr wythnos!

Yn cyfarfod ar-lein neu mewn tai, prif bwrpas ydy cyfarfod efo'n gilydd er mwyn nabod ein gilydd yn well, i astudio'r Beibl, i annog ein gilydd ac i gyd-weddïo.

Cysylltwch â ni os hoffech chi i ni'ch cysylltu chi â grŵp tŷ, neu os hoffech chi ddarganfod mwy.

Troeon Cymrodoriaeth

Ar ddydd Sul cyntaf bob mis, rydym ni fel arfer yn cymryd mantais o'r ardal hyfryd i fynd am dro efo'n gilydd.

Mae'r rhain yn wych i archwilio'r ardal ac i dod i nabod teulu'r eglwys yn well.

Rhagor o wybodaeth am y rhain a digwyddiadau eraill yn ein taflen newyddion misol!

Myfyrwyr Penrallt (Facebook)