Canolfan Penrallt

Canolfan cymunedol ar gyfer Bangor Uchaf

Pan brynodd Penrallt yr hen Gapel Twrgwyn ar Ffordd Caergybi, penderfynwyd dylai adran cefn yr adeilad gael ei wneud ar gael ar gyfer y gymuned. Felly ganwyd Canolfan Penrallt!

Prif amcan y Canolfan yw hybu, annog a datblygu teimlad o gymuned ym Mangor Uchaf a'r ardal o'i gwmpas gan ddarparu cyfleusterau ar gyfer grwpiau cymunedol ac eraill i gynnal cyfarfodydd a gweithgareddau sy'n hybu bywyd cymunedol. Mae'r adeilad wedi'i adnewyddu yn llwyr, a bellach medr o gynnig y cyfleusterau canlynol:

  • neuadd fawr
  • cegin fodern
  • ystafelloedd cyfarfod bach
  • meithrinfa a man chwarae efo tŷ bach neilltuol ar gyfer plant
  • siart troi, bwrdd gwyn, taflunydd data

Dyma lluniau o'r Canolfan i roi i chi syniad gwell o beth sy ar gael.

Defnyddir y Canolfan yn rheolaidd gan nifer o grwpiau cymunedol . Hefyd, mae o ar gael i'w archebu gan grwpiau neu unigolion ar gyfer digwyddiadau unigryw. Ceir rhagor o wybodaeth am archebu yn ein taflen gwybodaeth PDF. Sylwch fod y Canolfan ddim ar gael ar ddydd Sul gan fod yr adeilad i gyd yn cael ei ddefnyddio gan yr eglwys trwy'r dydd.

Os hoffech chi archebu'r Canolfan, rhowch e-bost at canolfan@penrallt.org neu ffoniwch 07934 231788. Os hoffech chi weld y cyfleusterau cyn archebu, croeso i chi gysylltu â ni i drefnu ymweliad (gwelwch yma ar gyfer manylion o sut i dod o hyd i ni).