Ar hyn o bryd, mae ein gwasanaethau i gyd yn digwydd ar-lein. Mae tudalennau'r gwasanaethau ar gael ar unrhyw amser ond rydym ni'n awgrymu gwneud y gwasanaeth am 10:30yb ar ddydd Sul a wedyn ymuno â'n sgwrs dros Zoom am 11:30yb os gallech. Bydd cyswllt i'r sgwrs ar gael ar dudalen y gwasanaeth.
Dyma'r gwasanaeth ar gyfer wythnos yma:
Mae ein gwasanaethau arlein blaenorol ar gael yma:
Cewch chi hyd i recordiadau'r rhan fwyaf ein pregethau, gan gynnwys y rhai o'n gwasanaethau arlein, ar ein tudalen pregethau, ynghŷd â sleidiau neu nodiadau i fynd efo rhai ohonynt. Mae rhai'r pregethau a darlleniadau ar gael hefyd ar ein sianel YouTube newydd a bydd mwy yno yn fuan.
Gwelwch beth rydym ni wedi bod yn canu yn ddiweddar gan edrych ar ein cronfa ddata caneuon.
Unwaith y mis, cynhelir Capel Caffi ar nos Sul, yn digwydd ar Zoom am 6:30yh ac yn parhau am tua awr — gwasanaeth anffurfiol iawn a rhyngweithiol, efo cerddoriaeth byw, trafod mewn grwpiau bach a cyfle i fyfyrdod. Bydd y gwasnaeth caffi nesaf ar Nos Sul 21 Chwefror.