Corff o gredwyr Cristnogol rydym ni yn ardal Bangor Uchaf yng Ngogledd Cymru, yn caru a chefnogi ein gilydd a'n cymuned cymaint â phosibl.
Ein gweledigaeth yw bod yn oleuni cariad Crist ar ben yr allt, gan roi gogoniant i Dduw a gwneud Iesu yn hysbys.
Croeso i chi archwilio'r wefan i gyd, a chysylltu â ni — fasen ni wrth ein boddau i glywed gynnoch chi. Dewch yn ôl yn aml i weld diweddariadau. Ar y dudalen hon cewch hyd i rai lleoedd a gallai fod o ddiddordeb arbennig, ac mae'r holl wefan ar gael trwy'r ddewislen ar ben bob dudalen.
Nos Sul 28 Medi, 7yh.
Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa yng Nghaersalem (LL55 2RB) ar nos Sul 6 Medi am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw yn y neuadd, o 6:30yh.
Man tawel lle mae'n iawn i beidio â bod yn iawn. Ar agor bob dydd Iau, 10:30yb – 12:30yh ar gyfer sgwrs, diddordebau cyffredin a chwmni. Lluniaeth am ddim. Croeso i bawb. Dewch i mewn.