Ym Mhenrallt rydym ni'n ymroddgar at ddarparu amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer ein plant a phobl ifanc, gan gydnabod mai nhw ydy eglwys yfory ynghyd â rhan fywydol o eglwys heddiw.
Mae ein gwasanaethau yn cychwyn efo amser addoli efo'n gilydd, gan gynnwys (fel arfer) sgwrs byr a chân ar gyfer plant yn bennaf (ond yn ddefnyddiol i bawb). Wedyn, bydd y plant yn mynd allan i'w dosbarthiadau ysgol Sul; mae'r pobl ifanc yn mynd allan ar yr un pryd ar gyfer eu sesiynau eu hunain ac mae meithrinfa ar gael ar gyfer plant bach iawn. Weithiau mae gennym wasanaethau bob oedran efo mwy o weithgareddau i blant, sy'n aros i mewn trwy gydol y gwasanaeth. Dyna cyfle gwych i ddysgu, addoli a tyfu fel un teulu mawr yr eglwys.
Mae pobl ifanc Penrallt (11-18) yn cyfarfod ar nos Iau am 7yh ar gyfer Ignite, grŵp sy'n cyfarfod fel arfer yn adeilad yr eglwys ond weithiau'n mynd allan wrth iddyn nhw wneud gweithgareddau gwahanol o wythnos i wythnos. Croeso i chi gysylltu a'n gweithiwr ieuenctid, Becca (youth@penrallt.org) neu gwelwch ein gwefan newydd, Penrallt Youth, am ragor o wybodaeth.
Kindle ydy clwb am ddim bob yn ail wythnos i blant, o 6 i 7yh. Croeso i bob plentyn oedran ysgol cynradd, ac bydd lle i rieni aros am banad a sgwrs. Gwelwch ein tudalen newyddion ar gyfer dyddiadau Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Becca (youth@penrallt.org).
Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r grwpiau neu weithgareddau yma, cysylltwch â swyddfa'r eglwys, neu ar gyfer gweithgareddau i bobl ifanc, cysylltwch â'n gweithiwr ieuenctid. Ceir manylion am weithgareddau penodol hefyd ar dudalen newyddion ac ar wefan Ieuenctid Penrallt (dim ond yn Saesneg ar hyn o bryd).