Beth sy'n Newydd ym Mhenrallt?

Digwyddiadau i Ddod

Cyfarfod Tîm Alpha

Nos Fercher 11 Medi, 7:30yh

Bydd cwrs Alpha nesa ym Mhenrallt yn cychwyn ar Nos Lun 13 Ionawr ac yn rhedeg tan diwedd mis Mawrth. Cynhelir cyfarfod cynllunio ar Nos Fercher 11 Medi am 7yh yn y capel. Oes oes gynnoch chi ddiddordeb mewn helpu, dewch i'r cyfarfod neu cysylltwch â Peter Jones (rev.peterjones@outlook.com).

Rolau: Gweddi, gosod, bwyd, helpu efo trafod, technoleg, golchu llestri, hysbysrwydd.

Digwyddiad 'Pop-Up' Dillad Wedi Eu Cyn-Garu a Chynaliadwy

Dydd Sadwrn 14 Medi, 10yb – 2yh, Canolfan Penrallt

Cynnig dillad ar gyfer y teulu'n gyfan lle mae eu hangen a cheisio eitemau o safon gwych nad oes eu hangen mwyach gyda'r bwriad o fendithio rhywun arall.

Rhad ac am ddim, ond mae modd i chi gyfrannu i elusen.

Taith Cerdded Gweddi

Dydd Sul 22 Medi, 2 – 4yh

Cynhelir taith cerdded gweddi ym Mangor, gan ddilyn amser byr addoli ym Mhenrallt o 1:30yh ac yn gorffen, hefyd ym Mhenrallt, tua 4yh, efo amser addoli arall a cyfle i rannu ac adlewyrchu ar ein profiadau ar y daith. Bydd hynny'n cymryd lle'r oedfa hwyrol arferol.

Digwyddiadau Rheolaidd

Oedfaon y Bore

Mae ein oedfa ar agor i bawb. Cynhelir fel arfer am 10:30yb ar ddydd Sul, efo cynulleidfa yn yr adeilad a rhai eraill yn ymuno â ni dros Zoom. Gwelwch ein tudalen oedfaon am fanylion a cysylltau:

Ar fore Sul olaf y mis cynhelir fel arfer oedfa cymun. Bydd y rhai ar Zoom angen bara a gwin (neu rhywbeth tebyg) i gymryd rhan yn llawn.

Oedfaon Hwyrol

Mae ein oedfa hwyrol fel arfer am 6yh nos Sul, gan amrywiaeth o fformatiau, ac maent heb eu darlledu neu recordio. Gwelwch y taflen newyddion misol am fanylion pellach.

Cyfarfodydd Gweddi

Mae gennym cyfarfodydd rheolaidd wythnosol ar Zoom ar ddydd Mercher am 11:30yb ac ar fore dydd Sadwrn am 8:30yb, gan parhau am tua 45 munud i un awr. Cysylltwch â swyddfa'r eglwys am gyswllt i'r cyfarfodydd.

Renew 57

Man tawel lle mae'n iawn i beidio â bod yn iawn. Ar agor bob dydd Iau, 10:30yb – 12:30yh ar gyfer sgwrs, diddordebau cyffredin a chwmni. Lluniaeth am ddim. Croeso i bawb. Dewch i mewn.

Newyddion Eraill

Soul Sisters

Soul Sisters ydy grwp cymrodorol merched Penrallt. Fel arfer, maen nhw'n cyfarfod ar ail fore Sadwrn y mis ar gyfer gweithgareddau amrywiol. Rhagor o fanylion yn ein taflenni newyddion.

Gweithgareddau Ieuenctid

Mae pobl ifanc Penrallt (11-18) yn cyfarfod ar nos Iau am 7yh ar gyfer Ignite, grŵp sy'n cyfarfod fel arfer yn adeilad yr eglwys ond weithiau'n mynd allan wrth iddyn nhw wneud gweithgareddau gwahanol o wythnos i wythnos. Mae gennym hefyd grŵp o'r enw Deeper sy'n cyfarfod yn ystod ein oedfa bore Sul am sgwrsiau dyfnach ynglyn â bywyd, Cristnogaeth ac unrhywbeth arall mae'r pobl ifanc am drafod. Croeso i chi gysylltu a'n gweithiwr ieuenctid, Becca (youth@penrallt.org), am ragor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r eitemau hyn, cyslltwch â swyddfa'r eglwys. Os bydd eich porwr yn ei alluogi, defnyddiwch y botwm yma i anfon e-bost atom ni:

E-bostiwch Swyddfa'r Eglwys

Cewch hyd i fwy o wybodaeth am Benrallt a manylion beth sy'n digwydd yn ein taflenni newyddion misol.

Archif Taflenni Newyddion