Gwasanaethau ym Mhenrallt

Gwasanaethau'r Bore

Mae oedfa'r bore am 10:30yb ar ddydd Sul.

Dydd Sul yma, 6 Medi, y bregeth fydd Heading for Glory (Exodus 14 & 19; pregethwr: Peter Cousins).

Os nad ydych chi'n gallu dod i'r adeilad am wasanaeth y bore, croeso i chi ymuno â ni ar Zoom. Bydd y cyfarfod Zoom fel arfer ar agor sawl munud cyn gychwyn yr oedfa ac bydd cyfle i chi siarad efo'r rhai eraill ar Zoom wedyn os hoffech chi.

Gwasanaethau Hwyrol

Nos Sul yma, 6 Medi, byddem ni'n cymryd rhan yn Codi Mawl, noson addoli dwyieithog efo Caersalem (Caernarfon) ac Eglwys Goleudy (Llangefni). Bydd y gwasanaeth yng Nghaersalem (LL55 2RB), yn cychwyn am 7yh, efo lluniaeth o 6:30yh. Bydd dim oedfa hwyrol ym Mhenrallt wythnos yma.

Rhagor o Wybodaeth

Gwelwch y tudalen newyddion misol am fanylion pellach y rhaglen mis yma.

Gwasanaethau yn y Gorffenol

Fel arfer, rydym ni ddim yn recordio'r gwasanaeth hwyrol. Dydy fideos gwasanaethau'r bore ddim ar gael yn gyhoeddus, ond cysylltwch â swyddfa'r eglwys os hoffech chi fynediad i recordiad gwasanaeth gorffennol.

Mae fideos y pregethau ar gael o hyd ar ein sianel YouTube. Cewch hyd i gysylltau i'r fideos yn ein archif pregethau, ynghŷd â recordiadau sain yn ôl at 2008, a nodiadau neu sleidiau ar gyfer rhai o'r pregethau. Sylwch fod rhai bregethau heb eu recordio.

Gwelwch beth rydym ni wedi bod yn canu yn ddiweddar gan edrych ar ein cronfa ddata caneuon:

Codi Mawl

Noson addoli dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, rhedir gan Caersalem (Caernarfon), Goleudy (Llangefni) a Penrallt (Bangor), efo mawl, gweddi, tystiolaeth a diolchgarwch. Croeso i bawb. Bydd yr un nesa yng Nghaersalem ar nos Sul 6 Medi am 7yh, efo lluniaeth ymlaen llaw o 6:30yh.

Cymdeithas Ar-lein
Oedfa'r bore ym Mhenrallt